
E-bost: Clwb Cant Neuadd Rhiwlas
- Fe fyddwn ni’n tynnu rhif lwcus allan bob mis er mwyn helpu i godi arian i dalu am welliannau parhaus i’r neuadd, ac i dalu am gostau cynnal a chadw cyffredinol.
- Y gost fydd £5 y mis am bob rhif.
- Mae gwobr o £100 ar gael i enillydd pob mis!!!
- Gallwch dalu naill ai gydag arian parod neu drwy PayPal.
- Byddwn yn tynnu rhif lwcus ar ail ddydd Mawrth pob mis.
- Os oes rhifau heb eu gwerthu, a rhif o’r fath yn cael ei dynnu, bydd ail-dynnu-rhif yn digwydd.
- Cysylltwch â Gill Walker neu Sharon Griffith, os dymunwch gymryd rhan.
- Ein gobaith yw y medrwn ni wneud y Neuadd yn well eto hyd yn oed, yn lle y gall y gymuned i gyd ei fwynhau.